Mae CSA yn ffordd broffidiol, gymdeithasol a chynaliadwy o gysylltu tir a chymuned. Hoffem weld prosiectau CSA yn ffynnu ledled y DU.

Bwriedir y cwrs ar-lein hwn ar gyfer grwpiau neu unigolion sydd yn y broses o ennill y sgiliau tyfu sydd eu hangen i redeg CSA neu sydd eisoes yn meddu ar y sgiliau hyn.

Mae’r cwrs yn rhedeg o fis Hydref i fis Mawrth, fel bod tyfwyr wedi gorffen y prif dymor ac yn gallu ymgymryd â’r hyfforddiant hwn mewn pryd i sefydlu CSA y tymor canlynol! Efallai y byddwch chi am ddilyn y cwrs i’ch helpu i benderfynu a yw CSA yn addas i chi.

Bydd pob pwnc sesiwn ar-lein yn para 2 awr a byddwn yn cynnal y sesiynau hyn tua 3 waith y mis gyda cyfanswm o 15 sesiwn.

Mae’r sesiynau yn gyfle i ni fanylu mwy ar bwnc neu wahodd siaradwyr gwadd ag arbenigedd penodol. Maen nhw hefyd yn gyfle i fyfyrwyr rannu syniadau a chodi cwestiynau.

Cyn pob sesiwn byddwn yn anfon rhestr o adnoddau astudio atoch. Bydd y rhain yn gymysgedd o dudalennau gwe, ffilmiau byrion a dogfennau. Ar gyfer pob sesiwn byddwn hefyd yn rhoi aseiniad i chi i’w gwblhau. Bydd yr aseiniadau hyn yn sail i’r trafod pan fyddwn ni’n cwrdd.

Er bydd y sesiwn ar-lein yn para 2 awr, rydym yn awgrymu y bydd angen i chi neilltuo rhwng 2 a 4 awr a mwy yr wythnos i weithio ar eich cynlluniau CSA wrth i ni eich tywys trwy bynciau’r sesiynau. Po fwyaf o amser y byddwch yn treulio arnynt, po fwyaf y byddwch yn elwa!

Yn ddelfrydol, er mwyn ychwanegu at y cwrs byddwch yn derbyn mentora gan amrywiaeth o sefydliadau. Byddwn yn ceisio eich helpu i gael hyd i’r cymorth ychwanegol hwn.
Bydd tiwtor y cwrs (Tom) hefyd ar gael hanner diwrnod bob wythnos i ateb e-byst a sgwrsio dros y ffôn.

Cydlynydd y Cwrs – Tom O’Kane

  • 7 mlynedd yn sefydlu a rhedeg Cae Tân CSA
  • 30 mlynedd o brofiad mewn ffermio cynaliadwy
  • BSc Ffermio Organig – Aberystwyth
  • Tystysgrif Ryngwladol mewn Ffermio Biodynamig – Lynette West, NSW, Awstralia
  • Tystysgrif mewn ‘Cyd-destun Dynol Ffermio Organig’ – KVL Copenhagen
  • 10 mlynedd o brofiad o fentora tyfwyr cymunedol
  • Profiad o sefydlu a rhedeg rhaglenni hyfforddiant gerddi cymunedol

Ffioedd Cwrs £400 

(Nid ydym am i’r gost fod yn rhwystr i ddysgu, felly rhowch wybod i ni os yw hyn yn broblem. Ar yr un pryd, mae angen i ni wneud i’r cwrs dalu amdano’i hun!)

I gadw lle neu i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch tom@caetancsa.org

 

Abbi

“Roedd hyfforddiant yn Cae Tân wedi rhoi sylfaen gadarn i mi redeg CSA. Roedd y cymorth a’r gefnogaeth gan Cae Tân wrth sefydlu Big Meadow yn werthfawr iawn ac roedd wedi gwneud y broses sefydlu yn glir ac yn hygyrch gan roi hyder i mi ddechrau arni.” Abbi Mason

Gan weithio o’n profiadau ni ein hunain, byddwn ni’n rhoi trosolwg i chi o’r prif faterion y bydd rhaid i chi eu hystyried er mwyn sefydlu a rhedeg eich CSA yn llwyddiannus.

Pynciau’r Sesiynau

  1. Beth yw CSA?
  2. Oes gennych y sylfaen sgiliau?
  3. Canfod ac asesu ansawdd tir
  4. Strwythurau cwmni CSA
  5. Cynllunio busnes
  6. Offer a chyfarpar ar gyfer graddfeydd amrywiol
  7. Ariannu’r sefydlu
  8. Materion cynllunio ar gyfer ysguboriau, polydwneli, parcio a thoiledau
  9. Cynllunio cnydau a chynllunio safle
  10. Tyfu am 4 tymor a storio cnydau – curo’r bwlch llwglyd!
  11. Denu gwirfoddolwyr
  12. Denu a chadw aelodau / rheoli aelodaeth
  13. Rheoli’ch cyllid drwy’r tymor
  14. Croesawu hyfforddeion a’u helpu i symud ymlaen – trosglwyddo’ch gwybodaeth
  15. Cysylltiadau gwaith da

Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru